AO3 News

Post Header

Published:
2018-10-31 10:26:00 UTC
Original:
Troubleshooting: Common Problems When Logging In
Tags:

Am resymau preifatrwydd, ni allem ateb holiadau mewngofnodi o fewn sylwadau y post yma. Os rydych yn cael trafferthion mewngofnodi, cysylltwch â Chefnogaeth.

Un o broblemau fwyaf cyffredin mae ein tîm Cefnogaeth yn delio â yw ble ni all defnyddwyr mewngofnodi i'r "Archive of Our Own - AO3" (Archif Ein Hun). Er bod na nifer o achosion bosibl i'r broblemau rhain, rydym ni wedi creu rhestr o rai o'r broblemau sy'n fwyaf cyffredin a mwyaf haws i ddatrys.

Os rydych yn cael problemau fewngofnodi i'r AO3, dyma rhai lefydd i ddechrau datrys y broblem.

A ydych chi wedi gweithredu eich cyfrif trwy ddilyn y cyswllt yn yr ebost cadarnhad cofrestri?

Os rydych chi wedi cofrestri ar yr AO3 yn ddiweddar ac yn cael trafferth mewngofnodi, gwnewch yn siwr rydych chi wedi gweithredu eich cyfrif! O fewn 24 awr ar ôl i chi cofrestri, dylech fod wedi derbyn ebost cadarnhad cofrestri o “[email protected]”, yn gofyn i chi gweithredu eich cyfrif AO3 yn defnyddio'r cyswllt yn yr ebost. Fel arfer, mae'r ebost gweithredu yn cyrraedd yn syth ar ôl creu eich cyfrif, ond gall rhai ddarparydd ebost oedi derbyniad yr ebost yn sylweddol.

Ar ôl i chi gweithredu eich cyfrif, dylwch derbyn ebost cadarnhad gweithredu o'r un ebost: “[email protected]”. Weithiau, mae'r ebostiau rhain yn mynd a'r goll yn y hidlydd sbam, felly gwnewch yn siwr rydych yn edrych yn rhain hefyd! Os ni allych dod o hyd i naillai eich cais gweithredu neu'ch ebost cadarnhad gweithredu, a mae hi wedi bod dros 24 awr ers i chi gofrestri, gallwch cysylltu â Chefnogaeth, yn gofyn i'ch cyfrif cael ei weithredu gan gweinyddydd.

A ydych chi'n ceisio mewngofnodi â'ch enw cyfrif (nid eich ebost), ac ydy o wedi'i sillafu'n gywir?

Gallwch ddim ond mengofnodi i'r AO3 gydach enw cyfrif; ni fydd eich ebost yn gweithio. Os rydych wedi anghofio eich enw cyfrif, neu nid ydych yn siwr os rydych yn sillafu fo'n iawn, gallem ebostio eich enw cyfrif atoch os rydych yn gwneud cais ailosod cyfrinair ar y dudalen "New Password" (Cyfrinair Newydd). Yn ogystal â chyfrinair dros dro, bydd yr ebost yn cynnwys yr enw cyfrif sydd wedi'i gysylltu a'r ebost, wedi'i lliwio'n goch. Nodwch bydd yr ateb hon ddim ond yn gweithio os mae'r ebost cysylltiedig i'ch cyfrif yn gyfredol, felly gwnewch yn siwr mae gwybodaeth cysylltu eich cyfrif yn diweddar!

A yw'ch porwr yn mewnbynnu eich enw cyfrif a'ch cyfrinair yn awtomatig?

Os rydych yn defnyddio gwasanaeth awto-gyflawni eich porwr neu rheolydd cyfrinair i fewngofnodi i'r AO3, mae yna siawns mae'r enw cyfrif a chyfrinair ar ffeil yn anghywir. I bod yn siwr, dileüwch y testyn mewngofnodi cyn-llwythiedig ac ail-deipiwch eich eich enw cyfrif a'ch cyfrinair ar law. Cofiwch i ddiweddaru cofnod yr gwasanaeth awto-gyflawni neu rheolydd cyfrinair gyda'r gwybodaeth cywir, i atal y problem hyn rhag digwydd eto.

Ydych chi wedi ceisio dileu cwcis eich porwr?

Weithiau, gall problemau mewngofnodi cael eu hachosi gan gwcis cam-ffurddweddedig neu llygredig. Gall gwallau cwcis arwain at neges gwall gan ddweud nad yw'r cyfrinair neu'r enw cyfrif a gofrestrwyd gennych yn cydweddu â'n cofnodion, hyd yn oed pan fyddant yn gywir, neu amod lle cewch neges mewngofnodi llwyddiannus ond nad ydych chi mewn gwirionedd wedi'ch mewngofnodi.

Er mwyn sicrhau nad yw'ch gosodiadau cwcis yn eich cadw rhag cael mynediad at yr AO3, gwiriwch fod eich porwr wedi'i ffurfweddi i dderbyn cwcis o AO3 a chlirio'ch cwcis cyn ceisio mewngofnodi i'r AO3 eto. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer rheoli cwcis yn wahanol rhwng fersiynau porwyr, ond dyma rai cysylltiadau i'ch helpu i ddechrau:

Ydych chi wedi ceisio analluogi ategion porwr ac ychwanegion?

 

Weithiau, gall ategion porwr neu ychwanegion ymyrryd â'r broses mewngofnodi. Er mwyn sicrhau nad yw eich gosodiadau porwr yn eich rhwystro rhag mewngofnodi, analluogwch unrhyw feddalwedd ychwanegol sy'n gysylltiedig â'ch porwr trwy ddilyn y dolenni isod.

Ydych chi wedi ceisio mewngofnodi trwy porwr neu ddyfais wahanol?

Os ydych chi'n llwyddo i fewngofnodi i’r AO3 trwy ddefnyddio dulliau eraill, mae eich broblem yn fwy debygol o fod yn broblem gyda'ch porwr neu'ch dyfais, yn hytrach na'ch cyfrif. Os yw hyn yn wir, rydym yn eich annog i roi gwybod i ni am hyn trwy gysylltu â Chefnogaeth, fel y gallem ymchwilio ymhellach. Cofiwch gynnwys manylion am y porwr/porydd a'r ddyfais(iau) yr ydych chi wedi'u profi, yn ogystal â'r broblem ei hun.

Ydych chi wedi ceisio popeth uchod, ond dal yn methu mewngofnodi?

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar yr holl gamau hyn ac yn dal i gael trafferth mewngofnodi, defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon i gysylltu â Chefnogaeth yn uniongyrchol. Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth cyfrif yn y sylwadau ar y post hon gan fod yr holl sylwadau yn gyhoeddus ac gall unrhyw un sy'n mynd at y dudalen hon ei weld. Bydd sylwadau sy'n cynnwys gwybodaeth gyfrif yn cael eu dileu.

Fel bob amser, cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl am fanylion eich problem, fel negeseuon gwall a dderbynwyd a chyfluniad eich porwr/dyfais, fel y gallem ni datrys trafferthion yn fwyaf effeithiol. Hefyd, dylech gynnwys pa un o'r camau uchod yr ydych wedi ceisio, felly gallem reoli'r materion hynny allan!